Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (42)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ardaloedd Menter (45 munud) |
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adolygiad o Effeithiolrwydd Datblygu Cynaliadwy (30 munud) Dogfen ategol Adroddiad ar Adolygiad o Effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy
|
5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Cyhoeddi’r Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd (30 munud) Dogfennau Ategol |
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a Fil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau (15 munud) NDM4854 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn NDM4680, y darpariaethau pellach hynny a ddygwyd gerbron yn Bil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth a diogelu data, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.(iii) Dogfennau Ategol
|
7. Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2012 (15 munud) NDM4901 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cytuno bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau etc) 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012. Gosodwyd y Memorandwm Esboniadol a memorandwm cydsyniad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012. Dogfennau
Ategol |
8. Dadl ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol (60 munud) NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf economaidd. Dogfen
Ategol Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oes gan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol weledigaeth glir ar gyfer cysylltu Cymru nac i leihau’r broblem gynyddol gyda thagfeydd ar goridor yr M4. Gwellaint 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei Chynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, gan gydgysylltu â Llywodraeth y DU, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyllid sydd ar gael drwy’r rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gwrthwynebu’r bwriad yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i ‘gynyddu capasiti’r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru’ ar ôl 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth hedfan ehangach ar gyfer Cymru. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth
trafnidiaeth gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl mis Mawrth 2012
fel mater o frys. |
9. Dadl ar y Strategaeth Microfusnesau (60 munud) NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Micro-Fusnes ac ymrwymiad y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer gweithredu polisi a strategaeth Micro-Fusnes. Dogfen
Ategol Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Rhoi pwynt 1 newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn nodi bod 331,400 o bobl yn gweithio i 193,010 micro-fusnes yng Nghymru ac yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnwys cymorth ychwanegol ar gyfer microfusnesau yn ei chyllideb. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: ‘sy’n cynnwys mesurau i leihau baich ardrethi busnes’ Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod yr adroddiad, Buying Smarter in Tougher Times, yn cynnwys amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei fod yn costio £20m i fusnesau gwblhau’r cam cyn-gymhwyso er mwyn cyflwyno cais ar gyfer contractau caffael cyhoeddus, ac mae hynny’n atal microfusnesau rhag cystadlu. Gellir gweld yr adroddiad (Saesneg yn unig) drwy fynd i: http://wales.gov.uk/docs/det/policy/110302agenda5en.pdf Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu argymhelliad yr adroddiad i leihau’r baich rheoleiddio ar ficrofusnesau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gyflwyno polisi ‘un i mewn ac un allan’ ar gyfer rheoliadau sy’n effeithio ar ficrofusnesau; a b) cyflwyno cymal machlud ar gyfer yr holl reoliadau newydd sy’n effeithio ar ficrofusnesau er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Micro-fusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob micro-fusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 1 Chwefror 2012